Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


04 Porton


04 ardal gymeriad Porton: math "canolradd" anarferol o dirwedd gerllaw'r arfordir. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 030)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Ymddengys i'r dirwedd hon gael ei chynllunio mewn un cyfnod. Ceir cyfeiriadau at Porton mewn dogfennau o ganol y drydedd ganrif ar ddeg ymlaen.

Delid tir yn Porton gan Briordy Allteuryn ac Abaty Tyndyrn, er nad oes fawr ddim dogfennaeth wedi goroesi. Yn ôl chwedl leol mae'r pentref gwreiddiol wedi ei erydu; mae rhai yn honni bod modd clywed clychau eglwys Whitson o hyd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Nodweddion draenio (ffosydd draenio, draeniau agored, system o afaelion), morglawdd, caeau hirsgwar mewn grid o ffyrdd a gynlluniwyd, a rhwydwaith lonydd gwyrdd, nodweddion pysgodfa (safle 'putcher' pwysig)

Yn ffin i'r dirwedd hon mae Whitson (ardal 3) i'r gogledd, Ffos Elver Pill a Broadmead (ardal 7) i'r dwyrain, Mireland Pill (ardal 1) i'r gorllewin a'r arfordir i'r de.

Mae'r patrwm caeau yn cynnwys caeau hirsgwar wedi'u gosod o fewn rhwydwaith ffyrdd a gynlluniwyd. Dichon mai comin stryd a amgaewyd yw'r ffordd echelinol o'r dwyrain i'r gorllewin. Nid oes gan y ddwy ffordd o'r gogledd i'r de unrhyw wastraff ac maent wedi goroesi fel "lonydd gwyrdd" heb ddim fetlin arnynt. Mae pentrefan Porton gerllaw eglwys Whitson, ac mae'n cynnwys casgliad ardderchog o adeiladau yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg i'r ddeunawfed ganrif. Yr unig anheddiad arall yw fferm anghysbell ger yr arfordir. Adwaenir y fferm hon fel "The Fisheries", ac erys olion safle "Putcher" i'w gweld yn y parth rynglanw.

Mae'n amlwg bod y morglawdd yn torri ar draws graen y dirwedd hon, gan greu nifer o gaeau trionglog. I'r dwyrain mae Ffos Elver Pill (Earls gynt); er bod sôn amdano mewn dogfennau o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, yn ddiau mae'n llawer hyˆ n na hynny. Mae i'r morglawdd wyneb o gerrig llanw a mur dychwelyd tonnau. Erys rhai gafaelion mewn cyflwr da, yn arbennig i'r de. Mae rhai coed wedi'u tocio i'w gweld hefyd.

Anarferol yw canfod tirwedd mor "rheolaidd" mor agos i'r arfordir, ac mae'n debyg mai enghraifft arall o gynllunio canoloesol ydyw. Tirwedd ydyw sydd wedi'i chadw mewn cyflwr da, sy'n gydlynus ac sydd â gwerth grwp uchel. Ceir patrwm cymharol gyfan o ffiniau caeau, system o afaelion a rhwydwaith lonydd gwyrdd, y torrir ar draws bob un ohonynt gan y morglawdd sydd wedi'i osod yn ôl.

I'r de, gwrychoedd prysglog a geir yn bennaf, ac ambell helygen aeddfed. I'r gogledd, collwyd rhai ffiniau, ac mae llawer o'r gwrychoedd sydd ar ôl wedi'u rheoli'n dda.

At ei gilydd, mae hon yn dirwedd dra chydlynus sydd wedi cadw ei chyfanrwydd i raddau helaeth; mae'r amrywiaeth eang o elfennau tirwedd yn ymgysylltu'n dda. Prin yw'r ymwthiadau gweledol, ar wahân i biblinell Dur Prydain i lawr Ffos Elver Pill (er bod y biblinell hon wedi'i chuddio o'r golwg gan wrychoedd i raddau helaeth). Mae'r pentrefan bach yn Porton yn ddymunol dros ben.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk